Can you produce more up to date translations?
Adolygiad Cryno o Weithgareddau'r Gangen yn 2011
Dechreuodd y flwyddyn yn dda gyda'r Gangen yn fuddugol unwaith eto yng ngwobr Cangen Fach y Gymdeithas am 2010.
Bu ychydig llai o sylw o'r wasg i gymharu â 2010, a llai o ddiddordeb mewn hyfforddiant. Serch hynny, parhaodd sylw yn adran Farm & Country y Daily Post, prif bapur newydd dyddiol Gogledd Cymru, i fod yn gryf, gan gynnwys erthygl gan Sean (yn nhoriadau'r wasg). Problem barhaol oedd y nifer fach o bobl sydd yn anfon toriadau, felly os welwch unrhyw beth ar-lein neu yn y wasg, cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor.
Parhaodd ein cysylltiad gydag Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithafol Bryniau Clwyd trwy 2011, yn ogystal â'r cymhorthdal yr ydym yn derbyn oddi wrthynt. Cynyddodd y niferoedd a'u hyfforddwyd yn y Gogledd Orllewin yn gryf ar ôl niferoedd isel 2010. Oherwydd problemau gweinyddol, ni allem ddarparu ffigyrau hyfforddi cyflawn, ond roedd yna bedwar diwrnod blasu a thri phenwythnos hyfforddi, gydag o leiaf 21 person yn derbyn 45 dydd o hyfforddiant ar dri safle gwahanol.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, cynhaliwyd dau benwythnos lle y gwahoddwyd canghennau eraill (Otley a Glynnoedd Swydd Efrog, a Sir Gaer). Fe gynhaliwyd y ddau benwythnos mewn lleoliadau newydd, a mynychodd nifer o aelodau i ymarfer. Gan gynnwys aelodau'r canghennau eraill, roedd yna gyfanswm o 20 unigolyn a 40 diwrnod ymarfer. Cynhaliwyd hefyd seminar gwalio croen sengl (a atynnodd sylw sylweddol yn y wasg ac ar y we), a fynychwyd gan bedwar aelod o'r Gangen.
Cafwyd cyfanswm o 77+ diwrnod ymarfer (43+ unigolyn gwahanol) dros bob digwyddiad. Parhaodd Sean Adcock ac Iolo Jones i arholi ar ran y DSWA yn Purbeck, Kentucky, Sir Derby a De Cymru.
Parhaodd "Stonechat" i dyfu ac i ddatblygu, gyda thanysgrifiadau yn cynyddu; gwnaed archebion swmp gan naw cangen, a thanysgrifiodd 6 unigolyn newydd gyda thri thanysgrifiad yn dod i ben. O ganlyniad, rydym nawr yn gallu argraffu pob cyfrol yn broffesiynol mewn niferoedd digon mawr i allu rhoi mwy am ddim. Eleni, hefyd, rydym wedi darparu ôl-gopïau (rhifau 6-22) ar lein ar wefan dswales.org.uk. Maent wedi cael eu cyrchu/lawrlwytho cyfanswm o 850 o weithiau; 187 o weithiau i gyfrol 21 yn unig. Bwriedir ymdrechu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r adnodd yma yn ystod 2012, ac o bosib ceisio elwa'n ariannol ohono. Cyfrannodd aelodau o'r Gangen hefyd tair erthygl o newyddion y Gangen i "Waller and Dyker", yn ogystal â chwe erthygl nodwedd, a dau ffoto clawr i gyfrol yr haf. Mae'r Gangen hefyd wedi galluogi cyrchiad erthyglau dosbarth meistr o "Stonechat" ar lein ar http://drystoneresource.blogspot.com/p/index.html, gwefan preifat Americanaidd, ac wedi cadarnhau caniatâd gan yr Ymddiriedolwyr i gynnwys colofn broffesiynol Craig Arbennigol o Waller and Dyker.
Cynhalion ni un daith gerdded dywysiedig, yn edrych ar nodweddion y waliau cerrig sychion yn chwarel Dinorwig; mynychodd pedwar person.
Oherwydd problemau trefnu (a'r tywydd, unwaith eto), cyfyngwyd y nifer o arddangosiadau yn 2011. O ganlyniad, ni lwyddon fod yn bresennol ond yn un digwyddiad cefn gwlad.
Gwnaed deg cyflwyniad i amryw o grwpiau yn ystod y flwyddyn, yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys i Gymdeithas Hanesyddol Conwy, Ymddiriedolaeth Cyfeillgarwch Llandudno (y ddau yn atynnu cynulleidfaoedd o bron 100), Cangen Otley a Glynnoedd Swydd Efrog, y Stone Foundation a chyflwyniadau cyffredinol agored yn Llanberis.