Sefydlwyd Cymdeithas Waliau Cerrig Sychion (Dry Stone Walling Association, neu DSWA) yn 1968. Elusen genedlaethol yw'r Gymdeithas, gyda'r nod o "warchod, gwella a hyrwyddo addysg am y grefft o godi waliau cerrig sych er lles y cyhoedd". Mae amcanion sylfaenol Canghennau Gogledd a De Cymru yn adlewyrchu hyn, gan annog codwyr waliau o bob gallu, yn broffesiynol ac yn amatur, i wella safon a swm eu gwaith, a gan annog atgyweiriad a chynhaliaeth waliau yn hytrach na'u dinistriad. Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau gan y ddwy Gangen gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, arddangosfeydd a chystadlaethau. Gellir gweld rhaglen bresennol pob cangen, yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol, trwy glicio ar ddolenni'r Canghennau.

Cynhyrchir cylchgrawn o'r enw Ar y Wal (gynt o'r enw Stonechat/Sgwrsio Cerrig) tair gwaith yn flynyddol gan Gangen Gogledd Cymru, sydd yn trafod pynciau yn ymwneud â gwalio. Gellir lawrlwytho hen gyfrolau ar ffurf pdf trwy glicio ar y ddolen Stonechat.

Cynhyrchir ystod eang o daflenni gan y DSWA, a gellir eu lawrlwytho yn yr adran Cyhoeddiadau.


WALIAU CERRIG SYCH A CHLODDIAU

Mae waliau cerrig sych yn ffurf hynafol ar derfyn, yn bwysig o ran tirlun a chadwraeth a hefyd yn cadw anifeiliaid yn eu lle. Gyda'i hamrywiaeth eang o fathau o greigiau, mae gan Ogledd Cymru waliau o bob math ac maent i gyd wedi'u hadeiladu gyda'r un egwyddorion yn eu hanfod, wedi'u haddasu i weddu i'r garreg a'r anghenion lleol. 

Nid yw waliau'n rhwystrau cerrig unffurf o anghenraid; mae nifer ohonynt yn cynnwys nodweddion diddorol fel tyllau i ddefaid, draeniau a chamfeydd.   Mae'r arddull lleol yn cael dylanwad mawr ar gymeriad waliau hefyd. Mae llawer o'r waliau sydd wedi'u hadeiladu o slabiau mawr yn cynnwys bylchau bychain yn eu hwyneb yn aml iawn, i arbed cerrig. Yn yr ardaloedd llechi, mae eu huchder yn cael ei ymestyn weithiau gyda llechi hir wedi'u hadeiladu yn y wal i gludo gwifrau ar y top.  Maen nhw'n gyforiog o hanes a llen gwerin.  Weithiau, yn enwedig o amgylch buarth, mae cwarts yn cael ei osod yn y "cerrig copin" (y cerrig uchaf) i gadw ysbrydion drwg draw.

Mae waliau ymhell dros 100 oed yn aml, wedi'u hadeiladu gan amlaf yn ystod y cyfnod pryd datblygwyd caeau wedi'u hamgáu, i ddarparu terfynau ac i glirio cerrig o'r caeau.  Mewn ardaloedd lle'r oedd cerrig yn brinnach, gwelir "cloddiau" (lluosog clawdd). Cloddiau pridd yw'r rhain gydag wyneb carreg, yn is na wal fel arfer ond gyda gwrych wedi'i blannu ar y top yn aml, a ffos ar un ochr weithiau.  Gogledd Cymru yw un o ychydig gadarnleoedd y "cloddiau cerrig" hyn, sydd i'w canfod yn gyffredinol mewn ardaloedd fel gwastatiroedd arfordirol lle mae cerrig yn brinnach.

Gwaetha'r modd, mae mwyafrif y waliau a'r cloddiau yn prysur ddadfeilio.  Yn wreiddiol, byddent wedi cael eu cynnal yn flynyddol.  Gyda newidiadau mewn arferion ffermio, a'r newidiadau mewn llafur yn arbennig, mae'r arfer hwn wedi newid ac mae waliau'n cael eu hesgeuluso cymaint yn aml nes bod gwaith atgyweirio mawr ac afrealistig o ddrud angen ei wneud.  Treuliwyd miloedd lawer o oriau gwaith yn adeiladu rhwydwaith Gogledd Cymru o waliau, ac mewn cyfnod anhygoel o fyr yn bennaf.  Mae'n anodd datgan yn bendant am faint fydd y waliau hyn yn para; mae'n dibynnu ar amrywiaeth eang o ffactorau, fel amodau'r tir, y math o garreg, y technegau adeiladu, pa mor agored yw'r safle ac ati. Gwaetha'r modd, nid ydynt yn para am byth ac wedi blynyddoedd o esgeulustod, maen nhw'n prysur ddadfeilio yn awr ar raddfa gyflymach nag y gellir eu hatgyweirio.  Mae'r atgyweirio yn sicr yn ddrud ac weithiau mae grantiau ar gael i leddfu'r gost hon. Bydd waliau cerrig yn para llawer mwy nag unrhyw ffens os cânt ofal priodol. Yn y tymor hir, gallant brofi'n fuddsoddiad doeth.


DRY STONE WALLING ASSOCIATION
CYMDEITHAS WALIAU CERRIG SYCHION

Canghennau Gogledd a De Cymru
North and South Wales Branches
Gellir dod o hyd i newyddion, llythyrau newyddion, oriel ffotograffig ac yn y blaen ar y dudalen NEWYDDION

Seiliwyd y destun hon ar Daflen Wybodaeth Gyffredinol Cangen Gogledd Cymru, ar gael ar ffurf pdf.

Gweler tudalen Cyhoeddiadau neu cliciwch yma am gopi.