Adroddiadau'r Canghennau o Waller and Dyker
Ar gael mewn Saesneg yn unig
Gogledd Cymru De Cymru
Gorffennaf 2009
Cynhyrchir cylchgrawn Stonechat gan Cangen Gogledd Cymru, a gellir cyrchu manylion a hen gyfrolau ohono trwy glicio'r botwm uchod. Mae'n trafod pob agwedd o waith cerrig, a gan amlaf yn cynnwys adran Newyddion y Canghennau - cynhwysir y rhain ar y dudalen hon ar ffurf pdf. Yn ogystal â'r cylchgrawn, cynhyrchir taflenni newyddion achlysurol gan ganghennau Gogledd a De Cymru, gyda chrynodebau o weithgareddau'r canghennau wedi'u cynnwys yn Waller and Dyker. Cynhwysir y rhain hefyd ar ffurf pdf.
Dangosir crynodebau o newyddion diweddar ar y dde. Ar waelod y dudalen mae oriel ffotograffig o weithgareddau diweddar. Cliciwch ar lun i'w weld yn fwy mewn ffenestr newydd. Mae lluniau ar gydraniad uwch hefyd ar gael trwy gysylltu â Sean Adcock (Saesneg yn unig).
Mae archifau o grynodebau a lluniau o flynyddoedd blaenorol yma: 2010 2011
Taflenni Newyddion/Newyddion Stonechat
Ar gael mewn Saesneg yn unig
Sgwrsio Cerrig/Ar y Wal
Sgwrsio Cerrig oedd enw gwaith y daflen newyddion achlysurol i aelodau Cymru gyfan, nawr wedi'i ail-enwi Ar y Wâl; pwy a wyr beth nesa...
Mae'r rhifyn cyntaf (Ionawr 2012) a'r ail rifyn (Ebrill 2012) ar gael ar ffurf pdf.
Taflenni Newyddion
Newyddion Stonechat
DRY STONE WALLING ASSOCIATION
CYMDEITHAS WALIAU CERRIG SYCHION
Canghennau Gogledd a De Cymru
North and South Wales Branches
OUT OF DATE WE NEED REGULAR TRANSlATORS
CAN YOU HELP?
CONTACT ADMINISTRATOR
PYTIAU
YMGASGLIAD CANGHENNAU CYMRU/FFORWM A DYDD BLAS AM DDIM
Ymgasglodd aelodau'r ddwy gangen yn Aberystwyth i walio, cymdeithasu a thrafod ar benwythnos yr 17eg/18fed o Fawrth. Wedi'n lleoli ym Mhlas Dolau ger yr A44 i ddwyrain Aber, cynhwysodd y dydd Sadwrn gwaith yng Nglandyfi, rhwng Aber a Machynlleth. Nos Sadwrn roedd pryd o fwyd a chyflwyniad sleidiau eithaf anffurfiol a edrychodd ar nifer o brosiectau gwalio yng Ngogledd America. Ar y dydd Sul trafodasom y ffordd ymlaen i'r CWCS a changhennau Cymru. Mae manylion pellach ar gael yn Ar y Wâl Rhif 2
GWALIO CERRIG SYCHION A DAEAREG
Sgwrs gan Philip Clark
GWALIO CERRIG SYCHION A DAEAREG
Sgwrs gan Phillip Clark
Dydd Mawrth 29ain o fai 19:30 - 21:00 (darpariaethol)
Yn ôl http://www.fforestfawrgeopark.org.uk/geopark-festival-2012,
Sgwrs gan Phillip Clark (a elwir hefyd Charles Gordon Clark) ar waliau cerrig sychion, nodwedd gyffredin o'r ardal hon fel o ardaloedd eraill o Gymru ac ucheldiroedd Prydain. Bydd yn archwilio eu perthynas agos â'r ddaeareg waelodol.
Lleoliad: Neuadd y Gorfforaeth (Guildhall), Aberhonddu (darpariaethol)
Mwy o wybodaeth i'w darparu yn fuan - dychwelwch i gadarnhau manylion y digwyddiad hwn.
ETHOLIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR Y GYMDEITHAS
Cynhaliodd y Gymdeithas etholiadau ymddiriedolwyr newydd yn ddiweddar fel rhan o'i hailstrwythuro. Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn awr 12 aelod. Mae'r canghennau yn parhau i gael eu cynrychioli, gyda phob un yn cael ei neulltio i ymddiriedolwr penodol â'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli. Mae manylion ar dudalen newydd DSWA of GB. Sean Adcock oedd un o 4 ymddiriedolwr a'u hetholwyd am y tymor hiraf o 3 mlynedd ac y mae wedi cymryd y cyfrifoldeb o gynrychioli Cymru. Bydd tudalen DSWA of GB yn cynnwys diweddariadau o newyddion DSWA, digwyddiadau a materion Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei bryd. Mae fforwm canghennau'r DU yn cael ei sefydlu i redeg dwywaith yn flynyddol; disgwylir i'r fformat hwn ddatblygu gydag amser, ond mi ddylai darparu ffordd o gael diweddariadau ac i drafod busnes y canghennau. Bwriadir cynnal y cyfarfod cyntaf ar y 24ain o Fawrth yn Brookland. Yn ogystal fe fyddwn yn cynnal fforymau Cymreig achlysurol, a'r cyntaf o'r rhain ar benwythnos y 17eg/18fed o Fawrth yn Aberystwyth. Gobeithiwn gynnal dydd hyfforddi ar y dydd Sadwrn, gyda thrafodaethau ar y bore Sul, a bwyd a chyflwyniadau sleidiau i'w ffitio mewn rhywbryd yn ystod y penwythnos.
GWYLIWCH Y GOFOD HWN!
LLYFRYNNAU SAFONAU
Cadarnhawyd cyllid newydd i gynorthwyo â'r llyfrynnau safonau Adeiladu Cloddiau a Waliau Cerrig. Y gobaith nawr yw argraffu llyfryn Cloddiau gyda llyfryn safonau yn Saesneg yn unig, a fersiynau dwyieithog o'r ddau ar y wefan hon. Mi ddylai testun pob un bod ar gael yn Saesneg ar ffurf pdf ar y dudalen safonau cyn y Nadolig.
PWYLLGORAU NEWYDD Y CANGHENNAU
GOGLEDD CYMRU
Cadeirydd Geraint Evans
07519 505295
Is-gadeirydd Iolo Jones
01286 870762
01286 871275
07738 853794
Swyddog Hyfforddi Paul Smyth
01766 513213
Cynrhychiolydd cyffredinol Craig Evans
01824 750650
Diolch yn fawr i'r aelod sy'n ymddeol, Richard Jones
DE CYMRU
Cadeirydd Ceri Jenkins
07984 514601
07966 761172
07790 443740
Swyddogion Martin Jones
Martin Rathbone
Toby Small
Dennis Phillips
Diolch yn fawr i'r aelodau sy'n ymddeol, Helen Jenkins a Michael Dowman
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly1.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly2.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly3.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly4.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly5.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly6.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly7.jpg
CheshireVisitLlanrhaedr-y-mJuly8.jpg
Pen y PassTasterJune1.jpg
Pen y PassTasterJune2.jpg
Pen y PassTasterJune3.jpg
Pen y Pass Course July1.jpg
Pen y Pass Course July2.jpg
Pen y Pass SingleBefore.jpg
Pen y Pass SingleAfter1.jpg
Pen y Pass SingleAfter2.jpg